Cross Party Group for Funerals and Bereavement/Y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau a Phrofedigaeth

 

24 Tachwedd 2022

 

Cofnodion draft

 

1.

Yn bresennol

 

 

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

Kathy Riddick (Dyneiddwyr y DU)

Deborah Smith (Ysgrifennydd)

Terry Tennens (SAIF)

Ryland Doyle, (swyddfa Mike Hedges

Rachel Bradburne (NAFD)

 

AS)

Carol Humphreys (Care for the

Darren Millar AS

 

       Family)

      Ahmed Alsisi (White Rose Funerals)

Stephen Tom (Phillip Tom & Sons)

 Grainne Connolly (EYST)

Martin Birch (Cyngor Caerdydd)

 

 

 

 

 

 

2.                   Cyflwyniad

 

Agorodd Mark Isherwood y cyfarfod drwy groesawu’r rhai a oedd yn bresennol yn yr ystafell ac ar-lein, gan ddweud cymaint o bleser oedd cael cyfarfod yn y Senedd unwaith eto o’r diwedd – ac i dreialu fformat hybrid a fyddai’n ei gwneud hi’n haws i aelodau’r Grŵp gymryd rhan mewn cyfarfodydd.

 

3.                   Ymddiheuriadau

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau cyn y cyfarfod oddi wrth:

 

                     Janette Bourne, Gofal Mewn Galar Cruse

 

                     Kate Edwards, tiwtor Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau (NAFD)

 

                     James Tovey, Tovey Brothers

 

                     Llyr Gruffydd AS

 

                     Kim Bird, cynrychiolydd annibynnol/defnyddiwr gwasanaethau

 

Ni chofnodwyd unrhyw ymddiheuriadau pellach yn ystod y cyfarfod.

 

4.                   Cymeradwyo’r Cofnodion

 

Anfonwyd cofnodion drafft cyfarfod mis Mehefin at y rhai a oedd yn bresennol cyn y cyfarfod.

 

Ni chafwyd unrhyw sylwadau na newidiadau, a chynigodd Phillip Blatchly bod y cofnodion yn cael eu derbyn. Eiliwyd hyn gan Stephen Tom.

 

5.                   Materion yn codi

 

Roedd pum mater i’w trafod:

 

                     Gofynnwyd i sylwadau ar yr Adroddiad Blynyddol Drafft gael eu hanfon at Deborah, i helpu i lywio'r fersiwn terfynol. Mae’r Adroddiad bellach wedi’i gwblhau a’i gyhoeddi ar wefan y Senedd.

 

                     Ar y drafodaeth ar ailddefnyddio beddau, gofynnwyd i Deborah Smith ddarganfod pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes. Roedd hwn ar agenda'r cyfarfod ac mae'n cael ei drafod yn ddiweddarach yn y cofnodion hyn.

                     Gofynnwyd i Deborah Smith hefyd gysylltu ag Archesgob Cymru i ofyn am ei fewnbwn. Gwnaethpwyd hyn ac roedd cynrychiolydd yr Archesgob, y Parchg James Tout, yn bresennol ar-lein ar gyfer y cyfarfod.

 

                     Fel rhan o'r arolwg ar ailddefnyddio beddau, gofynnwyd i ni ymgysylltu â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru (EYST) a Diverse Cymru. Gwnaed hyn; cyfrannodd EYST at yr arolwg ac maent wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd y Grŵp yn y dyfodol, gyda Grainne Connolly yn bresennol ar gyfer y cyfarfod hwn. Cysylltwyd hefyd â Diverse Cymru ond nid ydynt wedi cyfrannu hyd yma.

                     O ran cynllunio angladdau, penderfynodd y grŵp ysgrifennu at Weinidog y Trysorlys, John Glen. Yn anffodus, diswyddwyd Mr Glen ym mis Gorffennaf a bu newidiadau sylweddol pellach yn y swyddi gweinidogol dros yr Haf, fel y gwyddom oll. Mae Mr Glen wedi cael ei ailbenodi i’r swydd yn ddiweddar, o dan y Prif Weinidog Sunak, ond mae'r pwnc hwn wedi esblygu rhywfaint ac felly bydd natur unrhyw lythyr yn awr ychydig yn wahanol. Penderfynodd y Grŵp y dylid parhau gyda’r llythyr a dechreuodd y gwaith ar hyn ar unwaith.

 

6.                   Canfyddiadau'r arolwg anffurfiol ar ailddefnyddio beddau yng Nghymru

 

Cyflwynodd Deborah Smith grynodeb o'r arolwg anffurfiol diweddar a gynhaliwyd gan y grŵp ar ailddefnyddio beddau yng Nghymru.

 

Cafwyd 25 o ymatebion i’r arolwg, gan gynnwys gan sefydliadau ffydd; trefnwyr angladdau; cymdeithasau masnach; awdurdodau lleol; darparwr gofal iechyd lliniarol; grŵp allgymorth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; sefydliad cymorth profedigaeth; ac unigolyn a oedd wedi dioddef profedigaeth/cyn-gyflenwr i’r sector.

 

Mae 90 y cant o'r ymatebion yn sylwadau gwybodus neu'n bolisïau drafft, yn hytrach na safbwyntiau polisi wedi’u cyhoeddi, a dywedodd mwy na hanner yr holl ymatebwyr fod angen mwy o waith cyn y byddai eu sefydliad yn gallu llunio a chyhoeddi safbwynt polisi.

 

Mae diffyg canllawiau cenedlaethol ar y mater hwn ac felly mae arferion lleol yn esblygu, gyda chyfrifoldeb wedi’i ddatganoli i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae rhai ohonynt eisoes yn rhoi rhyw fath o ailddefnyddio beddau ar waith oherwydd diffyg lle.

 

Dywedodd Deborah fod yr arolwg yn dangos bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi ailddefnyddio safleoedd bedd yng Nghymru, ond ei fod yn bwnc cymhleth am resymau ffydd, diwylliannol, cyfreithiol ac emosiynol, ac mae sensitifrwydd (hyd yn oed wrth drafod ac ystyried y mater) yn bwysig. Pwysleisiwyd hyn gan Ahmed Alsisi, a esboniodd rai o’r pethau i’w hystyried o ran ffydd y byddai’n bwysig eu harchwilio wrth symud y mater hwn yn ei flaen. Bu’r Grŵp hefyd yn ystyried y cysyniad o orffwysfan derfynol - a’r hyn y mae’n ei olygu (ac wedi’i olygu) i wahanol gymunedau a chredoau.

 

Hyd yn oed pe bai ailddefnyddio beddau yn rhywbeth y cytunwyd arno, cytunwyd yn gyffredinol y byddai myrdd o faterion i’w hystyried a byddai cael fframwaith cyfreithiol, moesegol ac ymarferol cadarn yn hollbwysig. Mae’n bwysig nodi nad oedd pawb a ymatebodd i’r arolwg yn credu mai dyma’r datrysiad i brinder mannau claddu.

 

Roedd yr holl ymatebwyr yn credu y dylai cyfathrebu cyhoeddus/ymgynghori cynhwysfawr fod wrth wraidd datblygiad unrhyw bolisi o ran ailddefnyddio beddau yn y dyfodol, ac adleisiwyd hyn yn y cyfarfod. Nododd Martin Birch ei bod yn bwysig sefydlu diffiniad clir o'r hyn y mae ailddefnyddio bedd yn ei olygu a bod y cyhoedd yn deall hyn yn glir.

 

Nododd Darren Millar AS bod rhai beddau yn cynnwys aelodau o deuluoedd o wahanol genedlaethau, sy'n ei gwneud hi'n anodd llunio canllaw syml o ran pryd y byddai bedd yn dod yn addas i'w ailddefnyddio. Holodd hefyd beth fyddai’n digwydd i feddau unigolion nodedig, ac a fyddent yn cael eu heithrio gan fod eu beddau yn rhan o dreftadaeth a stori genedlaethol Cymru.

 

Trafodwyd materion cyfreithiol a rheoleiddiol hefyd, gyda chwestiynau yn codi ynghylch faint o bŵer sydd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn.

 

Awgrymodd Kathy Riddick y gallai nodi safbwyntiau a bwriadau pobl ynglŷn â’u beddau fod yn rhan o sgyrsiau diwedd oes yn y dyfodol - efallai fel sy’n digwydd gyda rhoi organau. Soniodd Rachel Bradburne am yr adolygiad sydd i ddod gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfraith claddu ac amlosgi. Efallai bydd y Grŵp yn dymuno cyfrannu iddo ar y pwnc hwn a phynciau perthnasol eraill.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd trafodaeth ar y camau nesaf, gan gynnwys pwy arall ddylai weld y cyflwyniad hwn, pa ymgysylltu â Llywodraeth Cymru y dylid ei wneud nawr ar y mater hwn, a pha waith pellach y dylai (ac y gallai) y Grŵp ei wneud.

 

CAM GWEITHREDU: Penderfynwyd y byddai'r Grŵp yn ysgrifennu at y bobl briodol o fewn Llywodraeth Cymru i ddeall eu barn ar y pwnc.

 

CAM GWEITHREDU: Bydd Deborah Smith yn drafftio datganiad sefyllfa ar gyfer y Grŵp ar y mater hwn ac yn ei ddosbarthu i gael sylwadau.

 

CAM GWEITHREDU: Cynigiodd Martin Birch gefnogaeth hefyd o ran symud y mater hwn yn ei flaen a bydd Deborah Smith yn trafod hyn gyda Martin yn uniongyrchol.

 

7.                   Llwybr Profedigaeth ar ôl colli plentyn

 

Rhoddodd Emma Kneebone o 2Wish y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp am y Llwybr Profedigaeth i gefnogi’r rhai sy’n colli plentyn.

 

Atgoffodd y Grŵp o’r gwaith a wnaed gan brif swyddog gweithredol 2Wish, Rhian Mannings, i dynnu sylw at y mater o gefnogi rhieni mewn profedigaeth, ar ffurf deiseb a drafodwyd yn y Senedd ac a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y ddeiseb ei chynnwys yn y Fframwaith Profedigaeth Drafft ac un o grwpiau llywio’r fframwaith, sydd wedi arwain at ddatblygu llwybr penodol i’w ddilyn ar ôl colli plentyn. Bydd yr un nesaf yn canolbwyntio ar farwolaeth babi.

 

Gofynnodd Mark Isherwood a allai'r Grŵp ddarparu unrhyw gymorth. Diolchodd Emma Kneebone i Mark ond gofynnodd a allai’r cynnig o gymorth gael ei storio i’w ddefnyddio yn y dyfodol, gan y byddai cyflwyniad y llwybr i Fyrddau Iechyd yn gyfle i fyfyrio, a gallai cymorth fod yn werthfawr yn dilyn hyn. Bydd Emma yn dod â’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyfarfod nesaf.

 

Cyn gorfod gadael y cyfarfod, gofynnodd Emma hefyd am gyngor ar y mater o gymorth ariannol ar gyfer y taliadau cloddio beddau sy’n cael eu codi pan fo angladd plentyn yn cael ei gynnal ar dir preifat. Awgrymodd Martin Birch ei bod yn dal yn werth gwneud cais i’r Gronfa Angladdau Plant, hyd yn oed pan nad tir y cyngor sydd o dan sylw.

 

8.                   Yr Ymchwiliad Fuller

 

Rhoddodd Terry Tennens a Rachel Bradburne y newyddion diweddaraf i’r Grŵp ar yr Ymchwiliad Fuller ar ofalu am bobl sydd wedi marw, yn dilyn troseddau’r trydanwr ysbyty David Fuller.

 

Yn 2023, bydd yr Ymchwiliad yn ehangu ei gwmpas o’r ysbyty yng Nghaint lle digwyddodd y troseddau i gynnwys pob lleoliad lle mae pobl sydd wedi marw yn derbyn gofal – gan gynnwys cartrefi angladd a lleoliadau cymunedol eraill.

 

Nodwyd y byddai'r ail gam hwn yn bendant yn bwnc y byddai'r Grŵp yn dymuno rhoi sylw manwl iddo yn y flwyddyn i ddod. Er bod cwmpas yr Ymchwiliad wedi’i gyfyngu i Loegr, gallai’r argymhellion yn ddeillio ohono baratoi’r ffordd ar gyfer goruchwyliaeth ychwanegol o’r sector gan y Llywodraeth, gan gynnwys, efallai, yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, sydd â Chymru o fewn ei gylch gwaith, a gallai gynnwys argymhellion megis mwy o ddiogelwch o ran mynediad i gorffdai, hyfforddiant, sut mae urddas pobl sydd wedi marw yn cael ei gadw, defnydd o deledu cylch cyfyng, a sut mae’r cysylltiadau rhwng mannau wedi’u rheoleiddio a heb eu rheoleiddio yn cael eu trin.

 

CAM GWEITHREDU: Awgrymodd Rachel Bradburne y gallai’r Grŵp ddymuno rhoi tystiolaeth i'r Ymchwiliad ar yr adeg briodol a bydd Deborah Smith yn cadw llygad allan am y cyfle hwn.

 

CAM GWEITHREDU: Awgrymodd Mark Isherwood y gallai fod o fudd cael cyfarfod ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol i drafod y pwnc hwn. Bydd Deborah Smith yn bwrw ymlaen â hyn.

 

9.                   Lansio adroddiad Comisiwn Profedigaeth y DU: ‘Mae Profedigaeth yn Effeithio Pawb’

 

Rhoddodd Deborah Smith y wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp ar lansiad adroddiad Comisiwn Profedigaeth y DU, ‘Mae Profedigaeth yn Effeithio Pawb’ a gynhaliwyd ddydd Mawrth 11 Hydref, ar-lein ac yn Llundain.

 

Cynhaliodd y Comisiwn arolwg o fwy na 1,000 o oedolion a oedd wedi dioddef profedigaeth yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ymgynghorodd hefyd â 99 o blant a phobl ifanc mewn profedigaeth, arolygodd 130 o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol, derbyniodd dystiolaeth gan 33 o arbenigwyr, ac ymgysylltodd â 31,000 o fyfyrwyr ysgol a choleg mewn ystafelloedd dosbarth.

 

Y prif ganfyddiad yn yr adroddiad yw’r ffaith nad yw pobl yn cael y cymorth cywir ar yr adeg y mae ei angen fwyaf arnynt, gyda phosibilrwydd o ganlyniadau difrifol i’w hiechyd, eu haddysg a’u cyflogaeth.

 

                     Amcangyfrifir bod 750,000 yn fwy o bobl na’r arfer wedi dioddef profedigaeth rhwng Mawrth 2020 a Rhagfyr 2021.

 

                     Mae hyn yn seiliedig ar ffigurau swyddogol sy’n dangos bod tua 150,000 yn fwy o farwolaethau na’r arfer wedi digwydd yn y DU yn ystod y cyfnod hwn, o gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer y pum mlynedd flaenorol.

 

                     Cyrhaeddwyd y ffigur o 750,000 drwy amcangyfrif bod un farwolaeth yn arwain at bum person ar gyfartaledd yn dioddef profedigaeth.

                     Amcangyfrifwyd bod 187,000 o bobl wedi dioddef profedigaeth yng Nghymru yn 2020, o gymharu â 166,000 yn 2019, cyn y pandemig

 

Canfu’r Comisiwn hefyd fod:

 

                     40 y cant o’r oedolion a oedd yn dymuno cymorth ffurfiol yn dilyn profedigaeth ddim wedi derbyn hyn, gyda 37 y cant yn dweud nad oeddent yn gwybod sut i gael mynediad at gymorth o’r fath.

                     Dywedodd hanner y plant mewn profedigaeth a ymatebodd nad oeddent yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt gan eu hysgolion a'u colegau.

 

                     Mae angen rhoi sylw arbennig i wella cefnogaeth ar gyfer cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

 

Yn ystod y lansiad, dywedodd y Comisiwn yr hoffai weld strategaeth drawsadrannol ar gyfer profedigaeth gan Lywodraeth y DU; ymgyrchoedd i gynyddu dealltwriaeth a normaleiddio sgyrsiau am farwolaeth, marw a phrofedigaeth; deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i gyflogwyr a lleoliadau addysg lunio polisi profedigaeth; a chynnydd yn y cymorth ariannol sy'n gysylltiedig â phrofedigaeth yn unol â chostau cynyddol, ac ymestyn hwn i grwpiau sy'n colli allan ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Comisiwn hefyd ei fod yn gweithio gyda'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i ymchwilio i'r rhwystrau sy'n atal grwpiau ethnig lleiafrifol rhag cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

 

O ran Cymru yn benodol, dywedodd y Comisiwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ei Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth mewn ffordd drawsadrannol, i gwmpasu pob agwedd ar bolisi cyhoeddus sy’n effeithio ar bobl sydd wedi dioddef profedigaeth ac i gynnwys lleisiau’r bobl hynny. Hoffai hefyd weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi 79c y flwyddyn am bob person yn y boblogaeth i mewn i drawsnewid gwasanaethau profedigaeth dros y 5 mlynedd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar gefnogi cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn well, a grwpiau eraill lle nad oes darpariaeth dda ar eu cyfer.

 

Dywedodd y Comisiwn hefyd yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil pellach i ddeall yn well anghenion cymorth pobl y mae profedigaeth yn effeithio arnynt, gyda ffocws penodol ar ddeall sut y gellir gwella gwasanaethau ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau eraill nad sydd yn cael eu cefnogi’n llawn yn eu galar. Rhaid i lais y bobl yr effeithir arnynt gan brofedigaeth fod yn ganolog i'r ymchwil hwn.

 

CAM GWEITHREDU: Penderfynwyd y byddai'r Grŵp yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gydnabod eu gwaith hyd yma ar y Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol, gan ofyn am sylwadau ar y galwadau gan y Comisiwn am ffocws ychwanegol yn y maes hwn ac yn nodi meysydd lle nad oes aliniad.

 

10.               Y Datganiad Ansawdd ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes

 

Nododd Mark Isherwood MS fod y Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes yng Nghymru, sy’n disgrifio sut y dylai gwasanaethau lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd da edrych, wedi’i gyhoeddi ar 7 Hydref 2022 ac fe’i dosbarthwyd i aelodau’r Grŵp yn fuan wedyn.

 

Nod y datganiad yw sicrhau bod y rhai sydd angen gofal lliniarol yn cael triniaeth sy’n ddiogel, yn amserol, yn effeithiol, yn effeithlon, yn deg, ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r datganiad ar waith drwy gynlluniau galluogi byrddau iechyd, yn ogystal â chydweithio â rhwydweithiau a rhaglenni eraill – er enghraifft, mae hefyd yn gysylltiedig â Fframwaith Profedigaeth Cymru ac yr argymhellion diweddar a drafodwyd gennym gynt gan Gomisiwn Profedigaeth y DU ar gyfer Cymru.

 

CAM GWEITHREDU: Nid oedd unrhyw sylwadau uniongyrchol gan y Grŵp ond penderfynwyd ei roi ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf, ynghyd â thrafodaethau pellach ar argymhellion y Comisiwn Profedigaeth ar gyfer Cymru, er mwyn galluogi aelodau eraill y Grŵp sy’n canolbwyntio ar brofedigaeth i ymuno â’r trafodaethau.

 

11.               Unrhyw fater arall

 

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

 

12.               Y cyfarfod nesaf

 

Er mwyn cynnal y patrwm o dri chyfarfod y flwyddyn, cynhelir y cyfarfod nesaf yng ngwanwyn 2023, dyddiad i’w gadarnhau. Cytunwyd bod y fformat hybrid wedi gweithio, er bod y rhai yn yr ystafell yn bell iawn o'r camera.

 

CAM GWEITHREDU: Penderfynodd y Grŵp barhau i gyfuno cyfarfodydd wyneb yn wyneb â rhai hybrid a rhithwir a byddai Deborah Smith hefyd yn ystyried adegau eraill o’r dydd y gellid cynnal y cyfarfod, megis yn gynnar gyda’r nos, i weld a fyddai newidiadau o’r fath yn ei gwneud yn haws i bobl fynychu.

 

DS/Rhagfyr 2022